Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Environment and Sustainability Committee
|
Cadeirydd y Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Cynaliadwy Senedd Ewrop Rue Wiertz 1047 Brwsel |
|
13 Ionawr 2015
|
Annwyl Mr Siekierski
Ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i'r rheoliad arfaethedig ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig
Ysgrifennaf atoch i dynnu eich sylw at y gwaith a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig. Hoffwn nodi rhai canfyddiadau cychwynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor yn gwbl gefnogol o nodau'r Comisiwn Ewropeaidd i wella hyder defnyddwyr, lleihau biwrocratiaeth a chefnogi twf y sector organig ledled yr UE. Fodd bynnag, rydym yn pryderu'n fawr am oblygiadau ymarferol y rheoliad fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd. Rydym yn pryderu y gallai'r cynigion annog ffermwyr yng Nghymru i beidio â mentro i'r sector organig neu arwain y rhai sydd eisoes yn ffermio'n organig i ymadael â'r sector.
Rydym wedi nodi pedwar maes o bryder yn ein gwaith cychwynnol, ac yn ein barn ni, dylid newid testun y rheoliad drafft i fynd i'r afael â'r rhain:
- Effeithiau gwaharddiad ar ffermio cymysg, o gofio nifer y ffermydd sy'n ffermio'n organig ac yn anorganig ar hyn o bryd;
- yr effaith o atal ffermwyr organig rhag defnyddio hadau confensiynol a stoc bridio anorganig ar ôl 2021;
- canlyniadau anfwriadol rhai o'r safonau lles anifeiliaid arfaethedig fel digornio a thorri cynffonnau; a
- y cynigion ar ddidystysgrifo oherwydd gweddillion anorganig sydd, yn ein barn ni, yn groes i'r egwyddor mai'r 'llygrwr sy'n talu'.
At hynny, rydym yn pryderu am ddileu'r eithriad gwerthu, manylion y cynigion ynghylch archwiliadau sy'n seiliedig ar risg a'r gofynion rhanbarthol o ran bwyd. Mae'r papur atodedig yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y materion hyn a gwybodaeth fanylach am ein prif bryderon.
Byddem yn croesawu'n fawr eich cefnogaeth wrth hyrwyddo'r pwyntiau hyn gyda'ch cydweithwyr yn Senedd Ewrop, gan gynnwys rapporteurs a dirprwy rapporteurs.
Casglwyd tystiolaeth gan sefydliadau ffermio, ardystwyr organig a chanolfannau academaidd blaenllaw sy'n arbenigo yn y maes polisi hwn. Mae rhagor o wybodaeth a chopïau o bapurau tystiolaeth a gyflwynwyd ar gael ar-lein yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=141
I gloi, mae'r Pwyllgor a'i randdeiliaid yn siomedig bod rhai o fanylion pwysicaf y cynnig hwn wedi'u gadael i'w trin drwy Ddeddfau Dirprwyedig a Gweithredu. Mae hynny wedi ei gwneud yn anodd asesu eu heffaith yn llawn. Rydym wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Hogan ynghylch y mater hwn yn ogystal â'n pryderon am safon yr asesiad effaith.
Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn y maes hwn gan gynnwys trafodaethau hollbwysig yn Senedd Ewrop. Edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach â chi yng nghyswllt y materion hyn, a gobeithio y bydd y wybodaeth yn y llythyr hwn yn ddefnyddiol ichi.
Yn gywir,
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Canfyddiadau allweddol Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffermydd cymysg
1. Mae pryder difrifol ymhlith rhanddeiliaid yng Nghymru am effaith y cynigion i'w gwneud yn ofynnol bod 100% o ddaliad yn organig. Mae ffigurau a gyhoeddwyd ynghylch y sector yn y DU yn dangos bod 25% o ffermydd organig yn cynnwys cyfuniad o unedau confensiynol ac organig. Os caiff ei wneud yn ofynnol bod daliadau cyfan yn organig, mae'r rhanddeiliaid yn pryderu y gallai hynny annog ffermwyr newydd i beidio â mentro i'r sector ac annog y rhai sydd eisoes yn ffermio'n organig i ddychwelyd i ffermio'n gonfensiynol, oherwydd y gall unedau confensiynol sicrhau incwm pwysig i ffermwyr yn ystod y broses o drawsnewid y fferm.
2. Rydym yn deall dymuniad y Comisiwn i leihau diffyg cydymffurfiaeth a gwella hyder defnyddwyr, ond mae'r dystiolaeth a gawsom ni yn awgrymu y gallai'r cynnig leihau tryloywder yn anfwriadol. Ar ffermydd cymysg, ar hyn o bryd, gall cyrff ardystio yn y DU archwilio'r unedau organig a'r rhai anorganig er mwyn sicrhau bod prosesau ar y fferm yn lleihau'r risg o halogi. Os caiff ffermydd eu rhannu mewn modd artiffisial er mwyn parhau i wneud y ddau fath o ffermio, ni fydd cyrff ardystio yn gallu archwilio'r unedau anorganig mwyach er mwyn sicrhau y dilynir yr arfer gorau.
|
Hadau organig a stoc bridio
3. Rydym yn gwbl gefnogol o nod y Comisiwn Ewropeaidd i gynyddu faint o hadau organig a stoc bridio sydd ar gael ar y farchnad. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod dileu'r rhanddirymiadau hyn erbyn 2021 yn adlewyrchu'r gofynion ymarferol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu ar lefel fferm. Roedd y rhanddeiliaid yng Nghymru o'r farn unfryd bod yr amserlen a gynigir ar hyn o bryd yn y rheoliadau yn annigonol.
|
Esemptiad i Fanwerthwyr
4. Rydym yn pryderu ynghylch y cynnig i'w gwneud yn ofynnol bod manwerthwyr yn destun prosesau ardystio. Yng Nghymru, efallai mai dim ond un neu ddau gynnyrch organig y bydd rhai manwerthwyr bach yn eu stocio, ac efallai y byddant yn rhoi'r gorau i'w gwerthu rhag wynebu'r costau archwilio. Yn ôl amcangyfrif y Bwrdd Masnach Organig, mae gwerthiant organig drwy fanwerthwyr bach yn cyfrif am £10 miliwn yr wythnos. Gallai colli'r gwerthiant hwnnw gael effaith sylweddol ar ffermwyr a thyfwyr organig.
|
Lles Anifeiliaid
5. Rydym yn cytuno â'r Comisiwn Ewropeaidd bod safonau uchel o ran lles anifeiliaid yn bwysig, ond rydym yn pryderu bod y cynigion fel y'u drafftiwyd ar hyn o bryd yn anghyson a gallent wahardd arferion sydd o fudd i les anifeiliaid yn anfwriadol, er enghraifft digornio gwartheg a thorri cynffonnau defaid. Oherwydd y lefel o dda byw a gynhyrchir yng Nghymru, mae'n hanfodol eu digornio i sicrhau nad yw'r gwartheg yn achosi niwed i'w gilydd neu'r bobl sy'n eu trafod. Mae'r systemau ar gyfer trafod gwartheg a ddefnyddir ar ffermydd yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r UE wedi'u cynllunio o fewn cyd-destun sy'n caniatáu digornio neu ddadimpio mewn ffordd nad yw'n greulon. Os caiff ffermydd eu hatal rhag gwneud hyn dros gyfnod byr, gallai arwain at effeithiau ariannol sylweddol i ffermwyr organig. Nid yw'r effeithiau hyn wedi'u hasesu'n ddigonol yn yr Asesiad Effaith, yn ein barn ni.
|
Didystysgrifo
6. Rydym yn cefnogi'n gryf hawl defnyddwyr sy'n prynu cynnyrch organig i fod yn gwbl hyderus ynddynt. Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod y cynnig i bennu lefel drothwy ar gyfer gweddillion anorganig wedi'i orsymleiddio, a'i fod yn groes i egwyddor yr UE mai'r 'llygrwr sy'n talu'. Ar hyn o bryd, os canfyddir gweddillion anorganig mewn cynnyrch, cynhelir archwiliad i ddod o hyd i ffynhonnell yr halogiad cyn cosbi cynhyrchydd.
7. Mae llawer o achosion lle gallai'r croeshalogiad fod wedi digwydd heb fod dim bai ar y cynhyrchydd. Byddai'r cynnig y câi'r cynhyrchwyr hyn eu didystysgrifo yn awtomatig yn mynd yn groes i'r egwyddor mai'r 'llygrwr sy'n talu'. Mae rhanddeiliaid yng Nghymru wedi dweud wrthym y gallai hyn, o bosibl, olygu bod rhai o'n cynhyrchwyr organig mwyaf profiadol yn cael eu didystysgrifo am bethau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth. Nodwn y byddai'r Aelod-wladwriaethau yn gallu darparu iawndal ariannol i'r ffermwyr hyn, ond na fyddai hynny'n atal cynhyrchwyr profiadol rhag gadael y diwydiant. Er y gallai fod angen gwelliannau pellach i'r gweithdrefnau arolygu i sicrhau cysondeb ar draws yr UE, nid yw'r cynigion presennol yn gymesur, yn ein barn ni.
|
Arolygiadau
8. Rydym wedi clywed safbwyntiau croes ar gynnig y Comisiwn Ewropeaidd i symud tuag at ddull arolygu ac ardystio sy'n seiliedig ar risg. Dywedodd sefydliadau ffermio wrthym fod cynhyrchwyr yn croesawu arolygon blynyddol fel ffordd o wella hyder defnyddwyr fel cyfle i gael cyngor gan y cyrff ardystio. Dywedodd arbenigwyr eraill wrthym nad oeddent yn gwrthwynebu'r cynnig mewn egwyddor ond bod angen llawer yn fwy o fanylion arnynt gan y Comisiwn Ewropeaidd am sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol. Rydym yn pryderu nad oes digon o fanylion wedi'u rhoi gan y Comisiwn Ewropeaidd i randdeiliaid am sut y byddai dull arolygu sy'n seiliedig ar risg yn gweithio.
|
Bwyd rhanbarthol
9. Mae'r sector organig Cymreig yn deall ac yn derbyn yr egwyddor bod ffermydd organig yn cynhyrchu bwyd i'w da byw ar eu daliadau eu hunain, neu o ffynonellau cyfagos. Fodd bynnag, o ystyried ein hamodau o ran hinsawdd, pridd a daearyddiaeth, nid yw'n bosibl i ffermydd organig Cymru gynhyrchu neu gyrchu eu holl fwyd yng Nghymru, neu hyd yn oed yn y DU. Felly, mae gennym bryderon am y cynnig i'w gwneud yn ofynnol bod canran uwch o fwyd yn cael ei chyflenwi o fewn y 'rhanbarth' y mae fferm yn perthyn iddo, gan nad yw'r cynnig yn nodi'n glir sut y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn bwriadu diffinio'r term 'rhanbarth'.
|